Tours

Dyma eich porth i archwilio’r Abertawe ganoloesol yn y ddinas heddiw. Mae ein map rhyngweithiol yn gysylltiedig â’r nodau palmant y cewch hyd iddynt yng nghanol dinas Abertawe, ac yn dangos lleoliadau a nodweddion yn y dref ganoloesol.

Gallwch ddewis dilyn un o’n teithiau ‘curadurol’ (sydd â’u cyfeirbwyntiau rhif eu hunain), neu gallwch grwydro fel y mynnwch rhwng y nodau ac archwilio’r hyn sydd yno. Gallwch ddefnyddio’r map i’ch tywys pan fyddwch allan yn Abertawe, neu i gael taith rithiol, ble bynnag y byddwch yn y byd.

Os byddwch chi’n defnyddio’r map o’r daith ar ddyfais sy’n caniatáu defnyddio GPS, er enghraifft ffôn clyfar neu gyfrifiadur tabled, byddwch yn gallu gweld ble rydych chi wrth i chi symud o gwmpas ar y map.

Yn achos pob lleoliad a nodir, cewch hyd i’r cynnwys canlynol:

  • Am y Lle hwn: gwybodaeth am y lleoliad canoloesol a newidiadau diweddarach 
  • Delweddau o’r Lleoliad: ffotograff o’r lleoliad heddiw, ffotograffau neu ddelweddau hanesyddol, a darluniad cyfrifiadurol o’r safle canoloesol
  • Cysylltiad â stori Cragh: manylion ynghylch y cysylltiad rhwng y lle hwn a hanes ‘y dyn a grogwyd’ yn Abertawe
  • Gwrthrych: gwrthrych canoloesol o gasgliad Amgueddfa Abertawe sy’n gysylltiedig â’r safle hwn mewn rhyw fodd

Yn achos y teithiau ‘curadurol’ sydd â thema benodol, cewch fod rhywfaint o gynnwys ychwanegol ynghlwm wrth bob cyfeirbwynt, yn egluro sut mae’n ymwneud â ‘stori’ eich taith chi.

Mae’r cynnwys canlynol ar gael yn Gymraeg:

• Teithiau Darganfod Abertawe yn y Canol Oesoedd a Crogi William Cragh 
• Y cynnwys Am y Lle hwn ar gyfer pob lleoliad

(Nodau palmant Abertawe Ganoloesol)